Band o orllewin Cymru sydd yn cael eu hysbrydoli gan gerddoriaeth rockabilly.

Y rysáit cerddorol yw cerddoriaeth amrwd, di - dechnoleg wedi sydd wedi gwreiddio’n ddwfn yng ngherddoriaeth cynnar Rockabilly. Ar ôl cymysgu’n dda mae’r band yn ychwanegu llwyed mawr o siwgr i neud y pwdin yn fwy melys fyth.

Mae’r band yn swnio’n hollol gyfforddus gyda’r genre cyffrous yma gyda phob aelod yn rhoi stamp eu hunain ar y sŵn. Pwdin Reis yw ble mae Memphis yn cwrdda Sir Gâr a ble mae’r Tywi yn llifo mewn i’r Mississpipi.

 

A band from west Wales who take their inspiration from Rockabilly.

The band sound confident with each member putting their own stamp on the unique Pwdin Reis sound. They inhabit a musical space where Carmarthenshire meets Memphis and the River Tywi flows into the Mississippi. The musical recipe mixes up raw, low tech rockabilly with strange quirky lyrics. To finish off this potent mix the band adds a large spoon full of sugar to make the pudding extra sweet.